Diwrnod Olaf yr Ymgyrch

Roedd tîm Glenn Swingler allan yn Y Rhyl heddiw ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch i'w ethol i gynrychioli Dyffryn Clwyd yn etholiadau Senedd Cymru 2021 sy'n digwydd yfory.  Cymrodd Glenn y cyfle i bwysleisio rhai o'r materion oedd yn bwysig i'r etholwyr ac a fydd ar frig ei restr o flaenoriaethau os caiff ei ethol.  Dywedodd "bod y tlodi mae'n weld mewn rhannau o'r etholaeth yn ei boeni'n fawr.  Roedd angen rhaglen enfawr o adeiladu tai cymdeithasol. Tynnodd sylw at y ffaith mai un o amcanion Plaid Cymru yn eu maniffesto, sydd a'i gost wedi ei amcangyfrif yn fanwl, oedd i greu 50,000 o gartrefi cyhoeddus yn ystod y pum mlynedd nesaf – 30,000 o dai cyngor neu dai cymdeithasol eraill, 5,000 o gartrefi rhent-gost ar rent canolradd, a 15,000 o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy i’w prynu.

Fel Gweithiwr Gofal Iechyd Meddwl mae Glenn yn ymfalchïo yn y Maniffesto sy'n rhoi blaenoriaeth uchel i Iechyd Meddwl a Gofalu am Bobl Cymru yn gyffredinol.  Roedd yn arbennig o falch o weld y cynnig i ehangu’r cymorth a gynigir i blant a phobl ifanc mewn gofal i 25 oed ar frig rhestr amcanion y Blaid ar gyfer Iechyd Meddwl.  Mae'n falch hefyd o gefnogi'r nod o greu un Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Dyfrig Berry
    published this page in Newyddion 2021-05-05 16:47:49 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.