Heddiw cyhoeddodd Plaid Cymru eu Maniffesto ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru ar Fai 6ed. Mae’n faniffesto uchelgeisiol ond gyda’r gost wedi ei gyfrifo’n fanwl, i greu cymdeithas fwy teg a charedig ar gyfer pobl Cymru.
Dywedodd Glenn Swingler, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dyffryn Clwyd “Dwi’n falch o gael sefyll dros blaid sydd a maniffesto mor flaengar ac uchelgeisiol. Fel Cynghorydd dwi’n treulio llawer o’m amser yn helpu pobl gyda phroblemau tai a digartrefedd. Felly dwi’n hynod falch o weld mai un o’r prif bolisïau yw sicrhau 50,000 o dai cymdeithasol neu fforddiadwy. Mae ardaloedd yn yr etholaeth sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru a bydd cynigion fel y £35 i’r teuluoedd tlotaf, torri biliau treth cyngor a help i fusnesau bach yn mynd yn bell tuag at ddatrys hyn. Mae dau ddegawd o Lafur yn llywodraethu yng Nghymru a’r Torïaid yn San Steffan wedi gadael Pobl Dyffryn Clwyd a Chymru gyfan yn brin.”
Mae crynodeb o’r maniffesto yma https://www.plaid.cymru/maniffesto ynghyd â dolenni i lawrlwytho’r maniffesto llawn, fersiynau hawdd i’w darllen a phrint mawr.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter