Ymgyrchwyr yn symud i Brestatyn

Yn dilyn yr ymgyrchu yn Y Rhyl y bore 'ma symudodd ymgeisydd Plaid Cymru Dyffryn Clwyd, Glenn Swingler, a'i dîm i Brestatyn i rannu taflenni a siarad gyda pleidleiswyr lleol.  Roedd Glenn yn awyddus i'r ffocws aros ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Mae mwy am bolisi'r Blaid ar y pwnc hanfodol hwn ar gael ar dudalennau gwe ein maniffesto yn Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol - Plaid Cymru.

Yr wythnos nesaf bydd yn canolbwyntio ar agweddau eraill o 'ofalu am bobl Cymru' ac yn arbennig Iechyd Meddwl sy'n agos at ei galon fel gweithiwr Gofal Iechyd Meddwl ei hun.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Dyfrig Berry
    published this page in Newyddion 2021-04-16 17:28:25 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.