Plaid Cymru yn mynnu ymddiheuriad am sylw digartrefedd

Mynnu ail-gyflwyno cyllid di-gartrefedd hefyd

Mae Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad gan Gyngor Sir Ddinbych yn dilyn y scandal fod y Cyngor yn symud pobl di-gartref allan o'r Rhyl gan eu bont yn ofni y byddant yn niweidio twristiaeth yn y dref. 

Meddai'r Cyng. Arwel Roberts, arweinydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych: “Dylair aelod cabinet ymddiheurio am ei sylwadau oedd yn dweud y gallai pobl sy'n aros mewn llety dros-dro ar bromenad y Rhyl gael 'effaith negyddol ar dwristiaeth a rhaglenni adfywio y dref.' Roedd y sylw yn annerbyniol a dylai ymddiheurio i'r teuluoedd a'r unigolion sydd yno. 

“Ar ben hyn mai'r weinyddiaeth wedi torri £74,000 allan o gyllideb digartrefedd y Cyngor Sir eleni. Cefnogwyd y toriad yma gan bob un o'r pleidiau eraill. 

“Mae torri cyllideb o'r fath yn amlwg am gael effaith, a'r effaith yw fod y Tim Atal Digartrefedd, sydd yn gwneud gwaith rhagorol mewn amgylchiadau anodd iawn, yn cael eu rhoi mewn sefyllfa anos fyth. 

“Rhaid adfer y gyllideb yma. Mae angen i ni hefyd weld fwy o dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu i ateb y galw yn ein cymunedau, ac nid datblygiadau moethus sydd yn ateb i anghenion y datblygwyr." 

Datganiad Cyngor Sir Ddinbych:

Yn dilyn y cyhoeddusrwydd parthed digartrefedd yn y Rhyl yr wythnos diwethaf, mae’r Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Annibyniaeth a Lles, a’r Cynghorydd Brian Blakeley, Pencampwr Digartrefedd Sir Ddinbych yn dymuno pwysleisio gymaint o waith ardderchog sy’n mynd ymlaen gan ein Tîm Atal Digartrefedd ar draws y sir.

“Mae Tai yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac rydym yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi i fwy mewn cartrefi sy’n cwrdd â’u hanghenion. Bwriad y Cyngor yw dileu digartrefedd o fewn Sir Ddinbych. Rydym yn sylweddoli bod hyn yn amcan uchelgeisiol. Mae’r tîm Atal Digartrefedd yn ymrwymedig i ddarparu ystod eang o gefnogaeth ar gyfer pobl sy’n canfod eu hunain yn ddigartref,  yn cynnwys gweithio gyda landlordiaid preifat a chymdeithasol er mwyn sicrhau fod aneddiadau ar gael, atal digartrefedd drwy weithio gyda theuluoedd i oresgyn problemau a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd angen llety mewn argyfwng a thros dro.

“Rydym yn gweithio gyda nifer o asiantaethau drwy'r Rhaglen Cefnogi Pobl i ddarparu ystod o wasanaethau cefnogi, gan gynnwys tai â chefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae hyn yn darparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn i atal digartrefedd ac mae'n helpu aelwydydd a theuluoedd digartref i ddod o hyd i'r ateb tai parhaol gorau ar eu cyfer.

“Defnyddir gwestai yn achlysurol gan y Cyngor i ddarparu llety brys tymor byr i'r rhai sydd mewn angen, ond ni chaiff eu hystyried yn ateb hirdymor a'n nod yw ailgartrefu teuluoedd ac unigolion mewn llety sy'n diwallu eu hanghenion mor gyflym ac mor effeithlon â phosib.

“Ar hyn o bryd mae gennym 89 o aelwydydd mewn llety brys, yn bennaf mewn cyfleusterau gwely a brecwast yn y Rhyl. Yn ychwanegol mae 42 o gartrefi mewn llety dros dro, yn aros am breswylfa barhaol.

“Fel Cyngor, mae gennym weledigaeth ar gyfer y Rhyl sydd eisiau gweld diwydiant manwerthu, hamdden a thwristiaeth fywiog ac eisiau cefnogi busnesau lleol i fod yn rhan o hyn. Bydd yn parhau i fod yn angenrheidiol i ddefnyddio gwestai a llety gwely a brecwast, er mwyn ein galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau i gartrefi sydd angen llety brys, ond mae'n bwysig sicrhau bod gennym y cydbwysedd yn iawn i sicrhau bod llety o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac fel mesur tymor byr, tra bod aelwydydd yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i dai parhaol.

Mae'r galw am ein gwasanaethau wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers cyflwyno'r Ddeddf Tai (Cymru) a chyflwyno Credyd Cynhwysol.   Disgwyliwn i hyn gynyddu ymhellach pan ddaw'r rhan o'r Ddeddf Tai sy'n ymwneud â 'fwriadoldeb digartrefedd' i rym ym mis Ebrill a byddwn yn parhau i ddarparu'r lefel uchaf o gymorth i'n preswylwyr sydd mewn angen.

Ar hyn o bryd rydym yn archwilio ystod o opsiynau ar gyfer darparu cefnogaeth ar draws y sbectrwm digartrefedd, gan gynnwys llety amgen ar draws Sir Ddinbych.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.